Cyrraedd Mewn Car i Hybu Trenau

Mae Dirprwy Prif Weinidog Cymru'n amddiffyn ei benderfyniad i deithio i ddigwyddiad yn hybu trafnidiaeth cyhoeddus mewn car a chauffeur.

Roedd Ieuan Wyn Jones, sydd hefyd yn gyfrifol am drafnidiaeth yng Nghymru, yn Llandudno i gyhoeddi buddsoddiad o £21m i orsafoedd trenau'r wlad.

Ond wrth gyrraedd mewn car a gyrrwr i'w dywys cafodd ei holi ynglun a dewis car dros dren.

"Wel, mae'n rhaid i ni wella gwasanaethau cyhoeddus," meddai wrth orsafoedd radio Tudno FM a Heart, "dw i yn gwneud llawer o 'nheithio i ar draws Cymru ar wasanaethau cyhoeddus a dw i'n aml yn defnyddio'r tren".

Buddsoddiad

Pwrpas y cyhoeddiad yn Llandudno oedd datgelu bod Llywodraeth y Cynulliad yn neilltuo £21m i wella gwasanaethau mewn gorsafoedd trenau yng Ngorllewin Cymru a Chymoedd y De.

Bydd yr arian yn cael ei wario ar wella adnoddau i gwsmeriaid, a gwella diogelwch.

Yn ogystal, bydd platfforms yng ngorsafoedd gwledig Ynys Mon ac arfordir Gogledd Cymru yn cael eu haddasu i'w gwneud nhw'n haws i bobl mewn cadeiriau olwyn.

Wrth son am y buddsoddiad, meddai Ian Bullock - Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Arriva Trains Wales - "Bydd y cynlluniau yma'n dod a'n gorsafoedd ni yng Nghymru i well safon, gan gyrraedd disgwyliadau ein teithwyr ni sy'n dweud wrthom ni pa mor bwysig mae gorsafoedd i'w profiad nhw o deithio ar y tren."