Cystadleuaeth Bwyd Ysgol Gwynedd

Mae plant ar hyd a lled ysgolion Gwynedd wedi bod yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth arbennig yn disgrifio bwyta a byw’n iach.

Bydd y ceisiadau buddugol yn cael eu defnyddio i hybu bwyta ffrwythau a llysiau bob dydd fel rhan o flaenoriaeth Cyngor Gwynedd i hyrwyddo strategaeth “Blas am oes” Llywodraeth y Cynulliad.

Derbyniwyd dros 300 o geisiadau gan ddisgyblion ar draws y sir, gyda dau gais buddugol yn cael eu dewis o ardaloedd Arfon, Dwyfor a Meirionnydd. Mae’r canlyniadau wedi eu cyhoeddi’r wythnos yma fel rhan o Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol (8 hyd 12 Tachwedd).

Dywedodd y Cynghorydd Eric Jones, sy’n arwain ar faterion Darparu ar Gyngor Gwynedd:

“Mae hyrwyddo’r neges bwysig am fwyta’n iach a byw bywyd iach yn flaenoriaeth i’r Cyngor, ac mae ysgolion ar draws y sir yn cefnogi’r ymgyrch i dynnu sylw at bwysigrwydd bwyta bwyd iach.

“Braf gweld fod disgyblion ar hyd a lled Gwynedd yn cefnogi’r ymgyrch. Llongyfarchiadau mawr i bob un o’r plant fu’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth yma, ac yn arbennig i’r enillwyr.”

Mae’r plant ddaeth i’r brig wedi ennill camera digidol fel gwobr a ddarparwyd gan gwmni Harlech Foodservice.

Y disgyblion ddaeth i’r brig yw:

Arfon:
Erin Williams, Blwyddyn 3, Ysgol y Gelli, Caernarfon
Nia Brown, 10 oed, Ysgol Waunfawr

Dwyfor:
Lois Ann Williams, Blwyddyn 5,  Ysgol Borth y Gest
Steven Roberts, Dosbarth Dolwar, Ysgol Hafod Lon, Y Ffor

Meirionydd:
Meleri Ellis Hughes, Blwyddyn 4, Ysgol Bro Tryweryn, Bala
Eward Hughes, Blwyddyn 4, Ysgol Bryncrug

Mae Wythnos Prydau Bwyd Ysgol Cenedlaethol yn cael ei drefnu gan LACA (Local Authority Caterers Association) sy’n hybu’r angen i blant fwynhau cinio Ysgol yn rhan o ddiet amrywiol cytbwys a bwyd llawn egni. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan LACA:  www.laca.co.uk