Damwain Bws Caernarfon - 9 Wedi Anafu
Mae 9 pherson wedi eu anafu mewn damwain bws difrifol y bore yma yng Nghaernarfon.
Cafodd gwasanaethau brys eu galw i Lon Penllyn tua 10yb.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru iddyn nhw anfon saith ambiwlans. Aethpwyd a phob un o'r sawl gafodd eu anafu i Ysbyty Gwynedd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n ymchwilio ac yn awyddus i siarad ag unrhyw dystion i'r digwyddiad - yn enwedig dynes stopiodd ei char i gynnig cymorth cyntaf i rhai o'r teithwyr.
Trawiad ar y Galon?
Un o fysus cwmni Padarn Bus Ltd darodd y drofan ar Lon Penllyn. Yn ol John Major, Pennaeth Cyfathrebu y Confederation of Passenger Transport UK, yr undeb sy'n cynrychioli'r diwydiant Bysus a Cherbydau:
"Aethpwyd a gyrrwr 46 oed i'r ysbyty. Mae adroddiadau'n awgrymu iddo ddioddef trawiad ar y galon - er nad yw hyn wedi ei gadarnhau. Mae ei deulu wedi clywed. O'r hyn ry'n ni'n ddeall - doedd yna ddim cerbydau eraill yn gysylltiedig a'r digwyddiad."
Fe ychwanegodd John Major: "Mae cwmni Padarn Bus Ltd yn gwneud popeth gallan nhw i helpu'r gwasanaethau brys."