Datgelu Cynlluniau Canolfan Gelfyddau

Mae’r cynlluniau ar gyfer canolfan gelfyddydau ac arloesi newydd gwerth £35m+ ym Mangor wedi’u datgelu.

Bydd y prosiect, sydd yn cael ei adnabod fel Pontio, yn cynnwys theatr gyda 450-550 o seddi, sinema, theatr stiwdio, ac amffitheatr awyr agored, ynghyd â chyfleusterau cymdeithasol newydd cyffrous yn cynnwys bariau, mannau bwyta a pharciau ar gyfer y teulu I gyd.

Bydd gofodau perfformio cyhoeddus y Ganolfan yn ganolbwynt pwysig i ddiwylliant Cymreig a byddant yn cael eu cynllunio i roi llwyfan arloesol ac ysbrydoledig i feithrin doniau newydd.

Bydd y datblygiad arloesol hefyd yn sefydlu canolfan heb ei hail ar gyfer arloesi mewn gwyddoniaeth, technoleg a’r diwydiannau creadigol ac yn creu Canolfan o bwys rhyngwladol ar gyfer dysgu a’r celfyddydau perfformio. Bydd yr adeilad newydd yn cyfuno’r celfyddydau a’r gwyddorau ac yn meithrin cysylltiadau agosach gyda chymuned Bangor.

Bydd Prosiect Pontio hefyd yn cynnwys Canolbwynt Arloesi deinamig, cyfleusterau addysgu a dysgu o’r radd flaenaf a chartref newydd i Undeb Myfyrwyr y Brifysgol.

Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Fergus Lowe, sy’n arwain y prosiect:

“Gyda chymorth £15m gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, bydd y Ganolfan yn cael effaith gadarnhaol tu hwnt ar y gymuned ehangach ym Mangor; bydd tua 450 o swyddi’n cael eu creu neu eu diogelu yn ystod y gwaith adeiladu, a 450 arall ar ôl i’r adeilad agor yn 2012.

“Bydd yn cynnal amrywiaeth eang o berfformiadau o gynyrchiadau theatr ysblennydd, ffilm, syrcas, dawns, cyngherddau roc a phop i opera a llawer mwy.

 “Bydd y prosiect hwn yn rhoi Bangor ar y map ac yn helpu i adfywio canol y ddinas. Cymaint fydd rhagoriaeth artistig ac arloesi y Ganolfan, mae’n siŵr o ddenu pobl o bell ac agos, a rhoi hwb newydd i dwf economi’r gogledd,” meddai.

 Bydd y Canolbwynt Arloesi yn helpu i ddarparu sgiliau gwyddoniaeth a pheirianneg o’r radd flaenaf i bobl ifanc. Bydd yn canolbwyntio ar sgiliau o ansawdd a fydd yn creu technolegau newydd ar gyfer busnesau mewn meysydd mor amrywiol â thechnolegau digidol, nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol, biowyddoniaeth, meddalwedd ddatblygedig a delweddu ymysg eraill. Bydd hefyd yn hyrwyddo a helpu i ddatblygu ymchwil heb ei hail i faterion economaidd-gymdeithasol pwysicaf ein dydd, yn enwedig ym meysydd iechyd a diogelu’r amgylchedd.

Bydd mannau addysgu a dysgu cymdeithasol newydd yn cael eu creu yn y Ganolfan a byddant yn amgylcheddau addysg modern o safon uchel a fydd o fantais i fyfyrwyr, yn hyrwyddo cysylltiadau â’r gymuned ac yn helpu busnesau. Ochr yn ochr â gofod addysgu ac arloesi, bydd gan y Ganolfan gyfleusterau arddangos digidol heb eu hail fel bod modd arddangos gwaith gan ddefnyddio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf.

Ychwanegodd yr Athro Lowe:

“Dyma gyfle unwaith mewn oes i Fangor.  Byddwn yn creu Canolfan ar gyfer dysgu a’r celfyddydau perfformio ag iddi bwysigrwydd rhyngwladol ac a fydd yn symbol pwerus o arloesi a chydweithio i’r gymuned gyfan.”

----------------------------------------------------------------------------------

The design for Bangor’s new £35+m arts and innovation centre has been unveiled.

The project known as PONTIO, will include a theatre with a capacity of between 450-550 seats, cinema space, a studio theatre, and an outdoor amphitheatre, all accompanied by exciting new social facilities including bars, dining and park areas in a ‘family-friendly’ environment.

The Centre's public performance spaces will become a major focus for Welsh culture, and will be designed to provide innovative and inspirational platforms for engaging new talent.

In addition, the ground-breaking development will establish a world-class centre for innovation in science, technology and the creative industries and will create an internationally significant Centre for learning and the performing arts.  The new building will bring together arts and sciences and forge closer links with the Bangor community.

The PONTIO Project will also include a dynamic Innovation Hub, cutting-edge teaching and learning facilities and a new home for the University's Students' Union.

University Deputy Vice-Chancellor, Professor Fergus Lowe is leading the project:

“Backed by £15m of Welsh Assembly Government funding, the Centre will have an incredibly positive impact on the wider community in Bangor: Approximately 450 jobs will be created or safeguarded during the construction phase, and an additional 450 once the building is opened in 2012.

“It will play host to a wide variety of performances from spectacular theatre productions, film, circus, dance, rock and pop concerts to opera and much more.

"This is the project that will put Bangor on the map and will help to regenerate the city's urban heart. It will provide a Centre of such remarkable innovation and artistic excellence that it is sure to draw the attention of people from near and far, as well as providing new impetus to the growth of the north Wales economy," he said.

The Innovation Hub will help to equip young people with high level science and engineering skills. It will focus on quality skills that will generate new technologies for businesses in areas as diverse as digital technologies, environmental goods and services, bioscience, advanced software and visualisation amongst many others. It will also showcase and help to develop a range of world-class research on pressing socio-economic issues, particularly in the areas of health and protection of the environment.

Throughout the Centre, new teaching and social learning spaces will be created to provide high quality modern educational environments that will benefit students, promote community engagement, and help business. Along with teaching and innovation spaces, the Centre will have state-of-the-art digital showcase facilities to enable the display of work using the latest in digital technology.

Professor Lowe continued:

"This is a once in a generation chance for Bangor. We will create an internationally significant Centre for learning and the performing arts that will be a potent symbol of innovation and collaboration for the whole community."