Dim Gobaith i 400 o Swyddi Aliwminiwm

Mae pobl Caergybi wedi bod yn ymateb i'r newyddion fod Aliwminiwm Mon yn datgomisiynu ei gwaith smeltio yn y dref.

SAIN:  Pobl Caergybi... GWRANDWCH YMA

Fe gyhoeddodd cwmni Aliwminiwm Mon eu bod nhw'n dechrau datgomisiynu'r safle blwyddyn ar ol i waith cynhyrchu orffen.

Fe gollodd 400 o bobl eu gwaith pan beidwyd a chynhyrchu metal yno llynedd.

Bydd cynlluniau am brosiect beiomas newydd yn parhau ond mae'r cwmni wedi datgelu y gall hynny gael ei werthu i gwmni ynni fel menter busnes.  Bydd gwaith ail-doddi hefyd yn parhau - mae hynny'n cyflogi 80 o staff.

Bydd y gwaith datgomisiynu yn cymryd blwyddyn i'w gyflawni.