Dim Mwy o Chwilio am Joe Hughes

Mae heddlu wedi dod a'u chwilio am ddyn ifanc o Ddwyran i ben...

Mae Joe Hughes - 19 oed - wedi bod ar goll o ardal Porthaethwy ers oriau man fore Mawrth.

Cafodd ei weld am y tro diwethaf am 12.30yb Ddydd Mawrth, 28 Rhagfyr ger Garej Shell, Porthaethwy.

Fe gysylltodd aelod o'r cyhoedd oedd yn byw ger glannau'r Fenai a'r heddlu yn dweud eu bod nhw wedi clywed swn gweiddi o'r dwr oddeutu 3.00yb. 

Bu gwylwyr y glannau, timau achub a'r heddlu yn chwilio amdano drwy'r dydd ar Ddydd Mawrth ac mae heddlu'n dweud iddyn nhw chwilio gerddi a thir gwyllt yn drylwyr ers hynny.

Maen nhw'n dweud nad oes fawr y gallan nhw wneud bellach tan fod gwybodaeth pellach yn dod i law.

Mae wedi ei ddisgrifio fel dyn tenau, croenwyn gyda gwallt tywyll.  Roedd yn gwisgo crys du a gwyn a throwsus llwyd.

Mae gofyn i unrhyw un sydd a gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.

Ymgyrch Gref ar Facebook

Mae dros 15,000 o bobl wedi ymuno a grwp ar Facebook i geisio dod o hyd i Joe Hughes.

Mae trefnwyr y grwp wedi dechrau ymgyrch ar Twitter hefyd.