Disgyblion Ysgol yn Dathlu

Mae'r dathlu wedi dechrau wrth i gannoedd o ddisgyblion ysgol ar draws Gogledd Cymru dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch.

Dros Gymru gyfan fuodd yna ostyngiad o 0.5% yn nifer y disgyblion lwyddodd i ennill graddau A-E ym mhob arholiad.

Ond yng Ngwynedd a Mon roedd y canlyniadau'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 97.1%.  Llwyddodd 97.7% i basio eu holl arholiadau yng Ngwynedd - a 98.4% ar Ynys Mon. 

Ymysg y pynciau mwyaf llwyddianus mae Busnes, Celf, Cymraeg, Ffrangeg a Daearyddiaeth - gyda 70% yn llwyddo i ennill graddau A-C.

Ac mae'r nifer o fyfyrwyr lwyddodd i gael y gradd newydd sbon - yr A* - yn uwch ar Ynys Mon nac ar draws y wlad ar gyfartaledd.

Sylwadau'r Cynghorau

Bu i Gyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden Ynys Môn, Richard Parry Jones, ddatgan ei fodlonrwydd gyda’r canlyniadau ar draws y sir:

“Rwyf yn hynod o falch gyda chanlyniadau ysgolion Ynys Môn eto eleni. Mae’r disgyblion a’u hathrawon i’w llongyfarch yn fawr ar eu llwyddiant.”

“Mae’r ganran a enillodd raddau A-E ar draws yr holl bynciau [98.4%] yn uwch na’r ffigwr cenedlaethol [97.1%] ac mae’r ganran a enillodd raddau A neu well [22.9%], er ychydig yn is na’r ffigwr cenedlaethol, yn dda. Mae hefyd yn galonogol bod y ganran A-E yn 100% yn y mwyafrif helaeth o’r pynciau ac mae hyn yn adlewyrchu’r cyngor a’r cyfarwyddyd a ddarperir i’n pobl ifanc.”

Mae’r ganran a enillodd y radd A* newydd, sydd yn cydnabod perfformiad eithriadol, yn 7.1%; mae hwn yn uwch na’r ffigwr cenedlaethol o 6.5%.

Ychwanegodd, “Dymunaf ddiolch i’r ysgolion a’r athrawon am eu gwaith caled a’u proffesiynoldeb, y disgyblion am eu hymdrechion a’r rhieni am eu cefnogaeth gyson.”

Dywedodd Dewi R. Jones, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd:

“Pleser yw cael dweud fod canlyniadau Lefel A ysgolion Gwynedd yn dda eto eleni ac mae’r bobl ifanc i’w llongyfarch yn fawr am eu hymroddiad.

“Mae’r canrannau a enillodd raddau A-E ar draws yr holl bynciau [97.7%] ychydig yn uwch na’r cyfartaledd cendlaethol [97.1%] ac mae’r ganran o 23.2% sydd wedi ennill gradd A* neu A yn agos iawn i’r cyfartaledd cenedlaethol. Yr hyn sydd hefyd yn galonogol yw’r ffaith bod y ganran A–E  yn 100% mewn nifer sylweddol o’r pynciau a gynigir ar draws yr ysgolion. Fe danlinella hyn gyflawniad a llwyddiant ein pobl ifanc i gyd yn yr arholiadau.

“Carwn fanteisio ar y cyfle i gyflwyno fy niolch i’r athrawon am eu gwaith caled a’u proffesiynoldeb ac i’r rhieni am eu cefnogaeth gyson.”

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards:

"Mae’r canlyniadau ardderchog yma yn dyst i ymroddiad ein pobl ifanc, athrawon a rhieni – mae llwyddiant ein pobl ifanc yn allweddol i ddyfodol Gwynedd.

"Hoffwn longyfarch pob un o'r bobl ifanc am eu gwaith caled a’u llwyddiant, ac yn benodol i'r rheini sydd wedi cyflawni eu potensial. Dymunwn pob llwyddiant iddynt i’r dyfodol.”

Dathlu yn Ysgol David Hughes

Fuodd Heart yn ymweld a Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy i glywed hanes y disgyblion yno.

Dyma un o'r disgyblion llwyddianus, Bethan Mon:

Un arall sy'n dathlu yw Rebecca Williams - llwyddodd hi ennill 2 A ac 1 B:

"Dwi'n hapus iawn.  O ni mor ofn cyn mynd i'r gwely - o'n i ddim isio ca'l fy siomi.  Bydd y canlyniadau yma gyda fi am byth.  Fydda i'n dathlu drwy'r diwrnod".