Dyn yn Gwadu Llofruddio Ffion

Mae dyn 53 oed o Borthmadog wedi pledio yn ddi-euog i lofruddiaeth gweithwraig gofal 22 oed.

Daethpwyd o hyd i gorff Ffion Wyn Roberts mewn camlas fechan rhwng Porthmadog a Thremadog ar ol iddi fod ar noson allan ar ddydd Sadwrn, Ebrill 10.

Yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu i'w marwolaeth daeth Iestyn Davies - gweithiwr ffatri lleol - o flaen Llys y Goron Caerdydd ar ddydd Mercher, Hydref 27 dan gyhuddiad o'u llofruddio.

Fe ymddangosodd drwy gyswllt fideo a gwadu'r cyhuddiad.

Mae wedi'i gadw yn y ddalfa.