Kayak - corff wedi'i ddarganfod

Mae Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi am gychwyn i chwilio unwaith eto am ddynes goll ar arfordir Ynys Môn.

Mae Gwylwyr y Glannau sydd wedi bod yn chwilio am ddynes goll ar hyd arfordir Ynys Môn wedi dod o hyd i gorff.

Bu i Elizabeth Ashbee sy'n 53 ac o'r Amwythig ddiflanu ger Rhosneigr prynhawn Sul, ond tydi'r heddlu ddim yn fodlon cadarnhau pwy yw'r corff ar hyn o bryd.

Prynhawn ddoe, cafodd caiac ei ddarganfod ger Nefyn.