Easy Jet yn Ymddiheurio i Bobl Sir Fôn
Mae cwmni teithiau awyrenau rhad 'Easy Jet' wedi ymddiheurio i bobl Sir Fôn.
Hynny ar ol i gwsmer sylwi eu bod wedi gadael Ynys Môn oddi ar fap mewn cylchgrawn.
Mewn datganiad - fe ddywedodd llefarydd ar ran y cwmni:
"Dymunwn ymddiheurio i bobl Sir Fôn ac fe hoffen ni gadarnhau y byddwn yn ail-ddarlunio ein mapiau ar gyfer cyhoeddiad nesa'r cylchgrawn.".
Ynys Aeth yn Angof...
Mae camgymeriad Easy Jet yn dilyn camgymeriadau tebyg gan gwmniau eraill ym Mhrydain - yn eu plith Walkers, Weetabix a Haven Holidays.