Ffurfio Cynghrair Iechyd Gogledd Cymru
19 February 2013, 15:18 | Updated: 19 February 2013, 15:43
Wedi i Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gyhoeddi cynlluniau i newid gwasanaethau gofal iechyd....Mae 6 mudiad sy'n cynrychioli trigolion sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau wedi uno.
Mae aelodau Cynghrair Iechyd Gogledd Cymru yn dweud wrth Heart mae nhw'n gobeithio y bydd cyd-weithio rhwng y mudiadau yn atal cynlluniau'r Bwrdd Iechyd, sy'n cynnwys symud rhai o wasanaethau mamolaeth y rhanbarth i Ysbyty Arrowe Park ar lanna'r Merswy, a cau Ysbyty Cymunedol Blaenau Ffestiniog.
Mae Mabon Ap Gwynfor o'r Gynghrair yn dweud wrth Heart fod aelodau'n ystyried her cyfreithiol:
'Rydym wedi cytuno mewn egwyddor ein bod ni am edrych i mewn i'r posibilrwydd o adolygiad barnwrol.
Felly dwi wedi bod mewn cyswllt gyda cynghorwyr cyfreithiol ac yn disgwyl am ateb yn ol, ac mi fyddwn ni fel mudiad yn cyfarfod eto cyn diwedd yr wythnos.'
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi dweud yn y gorffenol fod yna angen i gyflwyno newidaiadau i'r gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru.