Gareth: Heddlu'n Rhyddhau Lluniau CCTV

Mae heddlu sy'n ymchwilio dirgelwch marwolaeth gweithiwr MI6 o Ynys Mon yn apelio o'r newydd am wybodaeth.

Cafwyd hyd i gorff Gareth Williams - Cymro Cymraeg a seiclwr brwd o Gaergybi - bythefnos yn ol mewn bag wedi ei gloi yn stafell ymolchi ei fflat yng nghanol Llundain.

Mae swyddogion yn awyddus i ddod o hyd i ddau berson, rhwng 20-30oed, gafodd eu gadael i mewn i floc fflatiau Gareth yn hwyr ryw noson ym mis Mehefin neu Orffennaf.

Mae'r heddlu wedi rhyddhau lluniau camerau cylch-cyfyng o Gareth - oedd yn ei dridegau - yn mynd i orsaf diwb Holland Park yn Llundain oddeutu 3yh ar Awst 14eg.

Mae heddlu'n dweud iddo fynd i siopa ar sawl achlysur yn ardal y West End a Knightsbridge ar ol dod yn ol o wyliau yn yr Unol Daleithiau.

Fe aeth i siop Harrods ar Ddydd Sul Awst 15fed, ar ol ymweld a pheiriant twll yn y wal - yna am oddeutu 2.30yh mae'n cael ei weld gan gamera CCTV yn Hans Crescent, yn troi tua Sloane Street, ger siop Dolce and Gabbana.

Mae heddlu'n dweud bod Mr Williams - oedd yn 5tr 7mod, a chorff cyhyrog a gwallt byr, yn gwisgo crys-t coch, trowsus brown golau a sgidiau chwaraeon gwyn.

Dyma'r lluniau CCTV o Gareth yn mynd i mewn i orsaf tiwb Holland Park ar Awst 14eg:

 

Ymchwiliad Cymhleth

Meddai'r Prif Dditectif Jacqueline Sebire:

"Fe fyddwn i'n apelio ar unrhywun sydd efaillai wedi gweld neu siarad gyda Gareth rhwng 11eg a 23ain o Awst i gysylltu a'r heddlu ar 0208 358 0200, neu i siarad heb rhoi eu henw i Crimestoppers ar 0800 555 111."

Fe ychwanegodd:

"Mae hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad cymhleth i farwolaeth sydd heb esboniad".