Gareth: Profion Aneglur
Mae profion ar gorff Gareth Williams o Gaergybi wedi methu a sefydlu sut yn union y bu farw.
Gafwyd hyd iddo wedi ei gloi mewn bag yn ei fflat yn Llundain fis Awst. Roedd yn gweithio i'r gwasanaeth cudd MI6.
Meddai heddlu'r Met bod profion cyffuriau, alcohol a gwenwyn ar gorff Mr Williams wedi rhoi canlyniadau negyddol. Does yna ddim rhagor o brofion wedi eu trefnu ar hyn o bryd ond mae heddlu yn dal i ymchwilio i achos ei farwolaeth.