Gareth: Teulu'n Talu Teyrnged

Mae teulu gweithiwr MI6 o Gaergybi gafwyd hyd iddo yn farw yn ei fflat yn Llundain wedi talu teyrnged i fab "hael, cariadus".

Daethpwyd o hyd i gorff Gareth Williams wythnos diwethaf mewn fflat yn ardal Pimlico, Llundain.

Mae ei deulu wedi ryddhau datganiad yn talu teyrnged i "fab, brawd a ffrind hael a chariadus".

Dywed y datganiad:

"Roedd Gareth yn fab, brawd a ffrind hael a chariadus, ac roedd yn berson preifat iawn.

 Roedd yn athletwr anhygoel, ac yn caru seiclo a cherddoriaeth.

Mae ei golli wedi ein dinistrio ni ac fe fyddan ni'n gofyn i unrhywun sydd a gwybodaeth i gynorthwyo'r heddlu yn eu ymchwiliad."

8 Diwrnod

Yn y cyfamser, mae'r heddlu'n dweud y cafodd Gareth Williams ei weld yn fyw 8 diwrnod cyn dod o hyd i'w gorff.

Yn ol Scotland Yard - cafodd y dyn yn ei dridegau ei weld yn Llundain Ddydd Sul Awst 14eg.