Gobaith ar y gweill i Gyngor Môn

Mae Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru'n dweud fod o'n gobeithio y bydd Cyngor Ynys Môn yn gallu cymryd reolaeth yn ol ym Mis Mai.

Daw hyn ddwy flynedd wedi i Cael Sergeant benodi comisiynwyr i gymryd reolaeth o'r awdurdod leol yn dilyn ffraeo rhwng Cynghorwyr.

Cafodd presenoldeb y comisiynwyr ei leihau ym Mis Hydref y llynedd, ac mae Mr Sergeant yn dweud wrth Heart fod yr awdurdod wedi parhau i wella ers hynny:

"Mae gwleidyddiaeth y Cyngor dal i fod yn sefydlog ac yn aeddfed...Mae'r Cynghorwyr yn gwneud eu gwaith yn effeithiol, ac maen nhw wedi profi eu bod nhw'n ddigon abl i reoli'r gwaith o ddydd i ddydd.'

Fe fydd etholiadau'r Cyngor yn cael eu cynnal ar yr Ynys ym Mis Mai wedi i'r Gweinidog eu gohurio o flwyddyn yn dilyn y mesurau arbennig.