Gofyn i Dacsis Gwynedd Newid Lliw
Mae gyrrwyr tacsis Gwynedd wedi bod yn ymateb i awgrymiadau gan y Cyngor y dylen nhw newid lliw eu ceir.
Mae'r awgrymiadau - sydd yn mynd ger bron un o bwyllgorau Cyngor Gwynedd ar ddydd Gwener - yn cynnig y dylai ceir hacni fod yn ddu gyda blaen a chefn coch a cheir hurio preifat fod yn wyn gyda blaen a chefn melyn.
Medd Cyngor Gwynedd y dylai hyn alluogi aelodau'r cyhoedd weld yn glir pa geir sydd yn dacsis cofrestredig.
Dim Pwynt
Yn ol Darren Dooley - sy'n rhedeg cwmni tacsis yng Nghaernarfon - does "dim pwynt" newid lliw y ceir.
"Dwi'n gweld o'n pointless - bydd y ceir yn edrych yn stupid gyda'r lliwiau yna a bydd e'n gwella dim ar y dref - mae o'n pointless."
Fe ychwanegodd ei fod yn poeni am y gost o ail-liwio ei geir:
"Wast o bres yw hwn i rhywun fath a fi yw gorfod gwario holl bres i newid y lliw pan fod y lliw yn iawn a mae'r ceir yn rhedeg yn iawn. Mae'r ceir yn neud y job - dio'm ots beth yw eu lliw nhw."
Ond yn ol Fergus Taylor-Clarke sy'n gyrru tacsis yn Harlech, nid yw'r lliwiau newydd mor wael a hynny:
"Fues i yng Nghaerdydd yn ddiweddar a gweld car gyda'r lliwiau mae'r Cyngor yn awgrymu - roedd yn edrych yn dda".
Ond fe ychwanegodd wrth Heart ei fod ef hefyd yn poeni am y gost o ail-liwio.
Sichrau Diogelwch
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd:
"Fel rhan o'n hamcanion i sicrhau diogelwch aelodau'r cyhoedd sy'n defnyddio tacsis a chwmniau hurio preifat yng Ngwynedd, mae'r Cyngor wedi bod yn ymgynghori ar nifer o newidiadau posib i amodau ar gyfer gweithredwyr tacsis Hacni a hurio preifat yn y sir."
"Dylid nodi nad yw'r newidiadau posib yn berthnasol ar gyfer cerbydau hurio preifat sydd dim ond yn cludo plant i'r ysgol."
"Mae'r newidiadau posib hyn yn cynnwys asesiad i amodau sef y dylai pob gerbyd cofrestredig newydd gydymffurfio gyda lliwiau penodol fel y gall aelodau'r cyhoedd eu hadnabod yn rhwydd fel cerbydau Hacni a hurio preifat cofrestredig."
"Mae trefniadau o'r fath eisioes mewn lle mewn nifer o siroedd eraill ledled y Deyrnas Gyfunol".