Gohirio Achos Llys i Farwolaeth Ffion

Mae camgymeriad wedi golygu bod yn rhaid gohirio achos llys i glywed plediad dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio'r weithwraig gofal o Borthmadog - Ffion Wyn Roberts.

A hynny am nad oedd y carchar lle mae Iestyn Davies yn cael ei ddal wedi cael gwybod am ddyddiad yr achos.

Mae Mr Davies - sy'n bum deg tri ac yn gyn-weithiwr ffatri - wedi ei gyhuddo o lofruddio Ffion Wyn Roberts - 22 oed - ar ol iddi fod ar noson allan yn Nhremadog gyfagos fis Ebrill.

Bydd Mr Davies bellach yn pledio ym mis Hydref.