Gorsaf Gwylwyr y Glannau Caergybi yn Cau

Bydd gorsafoedd gwylwyr y glannau Caergybi ac Aberdaugleddau yn cau gan adael ond un canolfan rheoli yng Nghymru - ger Abertawe.

Dan gynlluniau'r llywodraeth fe fyddai'r goraf yng Nghaergybi yn cau erbyn 2015.  Bellach bydd cyfnod o ymgynghori yn dechrau gyda galw ar wleidyddion, gweithwyr a'r cyhoedd roi eu barn.

Mae'r llywodraeth yn credu y bydd ailstrwythuro canolfanau gwylwyr y glannau Prydain yn helpu'r timau achub ateb at sialensau newydd - fel traethau prysurach a llongau mwy yn y moroedd.

Ond yn ol Ray Carson, o'r undeb sy'n cynrychioli gweithwyr y canolfanau PCS, mae'n bwysig bod pobl Gogledd Cymru yn rhoi eu barn a'u hymateb i'r syniadau.

Fe ddywedodd bod y newyddion wedi dod fel "tipyn o sioc" i weithwyr y ganolfan yng Nghaergybi.