Gwahardd Gyrrwr am ei Garafan Gorlawn
Cafodd heddlu dipyn o sioc pan gamodd tair mam a saith o blant allan o garafan yn Eryri fis Mehefin.
Roedd y carafan wedi ei dynnu gan gar gant o filltiroedd o Stoke-on-Trent.
Ar ddydd Llun, cafodd gyrrwr y car - Sameer Mirzar, 46 - ei wahardd rhag gyrru am 2 flynedd. Bydd rhaid iddo ail-sefyll ei brawf hefyd, a thalu dirwy o £900.
Fe blediodd y gweithiwr cwmni awyr yn euog i yrru peryglus yn llys ynadon Caernarfon.
Llenni yn Symud
Roedd yna amheuon am y carafan ar ol i yrrwyr weld y llenni yn symud tra fod y carafan yn teithio ar gyflymder ar heol prysur yr A55.
Roedd y 7 o blant rhwng 5 a 14 oed yn mynd am bicnic i Lanberis pan gafodd y car a'r carafon eu stopio gan heddlu ar yr A4244.
Fe ddyweddodd Sergeant Ifan Jones o Heddlu Gogledd Cymru nad oedd erioed wedi gweld rhywbeth tebyg o'r blaen:
"Roedd yn ymddygiad gwbwl afresymol allai fod wedi cael goblygiadau erchyll. Fe gymrodd risg diangen gyda bywydau pobl diniwed."