Gwaith Dwr Gwerth £13m yn Agor

Mae gwaith puro dwr gwerth £13m yn agor heddiw yng Nghronfa Cwellyn ger Caernarfon.

Yn fano gafwyd achos o'r glefyd stumog cryptospiridium yn 2005 gan effeithio 200 o bobl.

Mae 76,000 o bobl Gwynedd a Mon yn dibynnu ar y gronfa am ddwr yfed - gyda chymunedau Beddgelert, Penygroes, Caernarfon, Llanberis, Bangor a De Ynys Mon yn derbyn dwr o'r llyn. 

Yn ol Dwr Cymru - dylai'r system hidlo newydd gael gwared ar unrhyw germau fel cryptospiridium. 

Meddai Mark Davies o Dwr Cymru wrth Heart:

"Mae 'na ddau broses nawr i ffiltro'r dwr - ac hefyd mae 'na system ultra-violet wedi ychwanegu at y gwaith.  Felly rydym ni wedi dygymod a'r risg o cryptospiridium."