Gwerthu Dau o Fynyddoedd Eryri

Mae dau o fynyddoedd Eryri wedi eu gwerthu mewn ocsiwn yn Llanberis.

Ar ol talu £1m am y fraint, bydd prynwr sydd hyd yma'n ddi-enw yn berchen ar Foel Goch a Moel Cynghorion ym Mharc Cenedlaethol Eryri.  Mae hefyd yn cynnwys dros 1000 erw o dir gwyllt a llyn.

Anhygoel

Roedd pamffled yn disgrifio'r tir oedd ar werth gan asiantaeth Kivells yn mynnu bod hwn yn gyfle "anhygoel".

Mae'r ardal, sydd a'r enw 'Helfa Fawr', rhyw ddwy filltir i'r Gogledd o Lanberis ac yn gartref i Rheilffordd Mynydd Eryri a Gorsaf Pwer Hydro-Electrig Dinorwig