Gweu Sgarff o Borthmadog i Benrhyn

Mae criw o ferched o Borthmadog a Phenrhyndeudraeth yn bwriadu creu sgarff milltir o hyd fydd yn rhedeg ar hyd mur y mor ym Mhorthmadog.

Mae'n rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant y 'cob' yno.  Bydd un sgarff yn cael ei gweu ym Mhorthmadog ac un arall yn cael ei gweu ym Mhenrhyndeudraeth - gyda'r ddau yn dod at ei gilydd ar noson y dathliadau.

Mae unrhywun sy'n cyfrannu at y gweu yn cael eu noddi gyda'r arian yn mynd at gronfa Ambiwlans Awyr Cymru ac Ysbyty Blant Alder Hey.

Delyth Owen o Siop Anna, Porthmadog sy'n trefnu'r gweu:

"Mae 'na blant o ddeg oed o fyny ac mae 'na ledis yn eu nawdegau yn gweu sgarffs i ni.  Mae'n rhywbeth fydd yn tynnu'r holl gymuned at ei gilydd gobeithio".

Ar ddiwedd y dathlu bydd y sgarff yn cael ei dynnu yn ddarnau a'i droi'n bagiau, sgarffs bychain a blancedi i'w rhoi i hospis lleol a chartrefi'r henoed.

Am fwy o wybodaeth - neu i gymryd rhan yn y gweu - cysylltwch a Delyth Owen ar 01766 515011.