Gwlad y Gan: Sêr Clasurol yn Teyrnasu
Mae'n swyddogol - Cymru yw gwlad y gân...
Yn ol ffigyrau gan Gwmni'r Siartiau Swyddogol (OCC) mae 35% o 50 albym clasurol mwya'r 5 mlynedd ddiwethaf yn y DU wedi bod yn rhai cantorion o Gymru. Ymysg y cryno ddisgiau werthodd mwya' mae rhai Katherine Jenkins a Bryn Terfel.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran cwmni recordio Decca - sy' ar hyn o bryd yn chwilio am seren glasurol newydd o Gymru - bod y ffigyrau'n "gamp anhygoel i genedl sy'n cynrychioli llai na 6% o'r boblogaeth".