Gwlad y Gan yn Diolch i Wootton Bassett

Bydd 65 o gerddorion o Ogledd Cymru yn teithio i Wooton Basset yn Wiltshire fis Medi.

Esmor Davies o'r Wyddgrug sy'n trefnu'r daith - mae e'n gwirfoddoli i drefnu penwythnos o gyngherddau a digwyddiadau Cymreig yn y dre.

Mae wedi ymweld a'r dre sawl gwaith ac yn cael ei ysbrydoli gan y bobl:

"Mae'r dre yn gwneud gwaith mor anhygoel - i fod allan yn y tywydd mawr, yn rhoi cymorth i'r bobl 'ma sy' 'di colli rhywun - mae'n fendigedig."

Gwlad y Gan

Yn ol Esmor Davies, mae cynnal cyngerdd yn ffordd Gymreig iawn o ddweud diolch:

"Cymru ydy gwlad y gan.  Bydd pobl o'r Gogledd yn dod yno ac yn rhoi gwledd o gyngerdd iddyn nhw, a gwledd o ddiolchgarwch iddyn nhw am fod yn 'outstanding' mewn ffordd, i fod yn gymorth i'r bobl anffodus yma".

Mae Esmor yn ariannu'r daith ei hun - ac yn cyfrannu £6000 o'i goffrau i sicrhau bod y gyngerdd yn digwydd.

Mae Cor y Gogledd, y gantores Ann Atkinson o Gorwen, ac Gwawr Edwards a Aled Davies o'r De wedi cadarnhau y byddan nhw'n cymryd rhan yn y gyngerdd.

Llythyron

Mae Esmor yn gwahodd teuluoedd y Gogledd sydd efallai wedi cael eu hefeithio gan rhyfeloedd Irac ac Afghanistan i gyfrannu drwy ysgrifennu llythyr yn diolch i bobl Wooton Bassett am eu cefnogaeth.

"Sgenon nhw isie rhoi rhwbeth i'r dre 'sa fi wrth fy modd yn mynd lawr - rhwbeth fydd at eu calon nhw - a geith y Cyngor agor o dros y dre", meddai wrth Heart.

Creu Cofeb

Fe hoffai Esmor godi cofeb parhaol yn y dre i ddiolch i'r bobl yn Wooton Bassett am eu hymdrech a'u hymroddiad o bobl Gogledd Cymru.

Os hoffai unrhyw un gyfrannu'n ariannol at y gofeb fe allan nhw ei ffonio fe ar 01244 5411791 neu 07877292394.  Dyna'r rhifau am ragor o wybodaeth neu i gyfrannu mewn unrhyw ffordd arall hefyd.

*******************************************************************************************************

65 musicians from North Wales will travel to Wooton Bassett in Wiltshire in September.

Esmor Davies from Buckley is organising the trip - he's volunteered to arrange a weekend of Welsh concerts and events in the town.

He's been to visit several times and is inspired by the people:

"I feel in my heart that they're an amazing part of our nation - there's so much we can thank them for - they've been so kind to these families that have lost loved ones".

Land of Song

Esmor says that holding a concert is a very Welsh way of saying thanks:

"Wales is the land of song.  The people of North Wales will get together and give them a musical feast and a thanksgiving feast because they've been outstanding - and have really helped these unfortunate people".

Esmor is funding the trip himself - and is giving £6000 from his own funds to make sure the concert happens.

The North Wales Rugby Choir and singers Ann Atkinson, Gwawr Edwards and Aled Davies have all said they'll come along.

Letters

Esmor's inviting anyone in the North West and Wales who've been affected by the wars in Iraq and Afghanistan to contribute by writing a letter of thanks to the people of Wooton Bassett for supporting the fallen troops every time they're repatriated.

"If there's anything you want me to pass on - any messages - let me know and I'll make sure the Council opens them on behalf of the town", he told Heart.

Memorial

Esmor would like to build a permanent memorial in the town to remind people there of how grateful the people of North Wales are.

If anyone would like to contribute financially to the memorial they can ring him on 01244 541791 or on 07877292394.  They're the numbers to ring for any other information or to help in any other way.