Gwn Tegan: Rhybudd i Rieni
Mae yna rybudd i rieni beidio a phrynu teganau sy'n edrych fel arfau na gynau BB i'w plant am y Nadolig...
Yn ol Heddlu'r Gogledd, mae'n anodd iawn gweld y gwahaniaeth rhwng gynau ffug a rhai go iawn. Fe all arwain at blant yn wynebu heddlu arfog yn y stryd.
Fe ddywedodd yr Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gareth Pritchard:
"Mae pobl ifanc ac oedolion sy'n cario arfau ffug mewn ardaloedd cyhoeddus yn medru achosi pryder i drigolion sy'n meddwl mai gynau go iawn ydyn nhw. Gall hyn arwain at alwad 999 ac ymateb gan swyddogion arfog."
"Mae'n rhaid i bobl sylweddoli ei bod hi'n drosedd i gael gwn ffug neu gwn aer mewn lle cyhoeddus... fe allwch chi gael eich arestio am wneud."
Creu Pryder ac Ofn
Dros y 2 flynedd diwethaf mae swyddogion arfog Heddlu Gogledd Cymru wedi bod i 37 digwyddiad yn ymwneud a theganau arfau a gynau BB. Ambell dro, bu'n rhaid cau strydoedd cyfan cyn sylweddoli bod yr arf yn ffug. Mae'r heddlu'n dweud i hyd achosi pryder ac ofn i gymunedau lleol ac i'r plant oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Galw ar Rieni Fynd a'u Gynau i'r Heddlu
Wrth i'r 'Dolig agosau, mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i rieni fynd ag unrhyw deganau sy'n edrych fel arfau neu gynau atyn nhw...
Tra yn siarad a Heart, fe ddywedodd yr Uwch Arolygydd Darren Wareing:
"Byddwch yn gyfrifol ac ystyriwch yr effaith y mae'r teganau yma yn gael - dewch a nhw i swyddfa'r heddlu. Fe wnawn ni'n siwr ein bod ni'n delio a nhw mewn ffordd addas a'u cael nhw oddi ar y strydoedd."
Fe ddangosodd yr heddlu ambell gwn ffug ac ambell gwn go iawn i Heart. Allwch chi weld y gwahaniaeth?