Gwobr am lofruddiwr Caergybi

Mae gwobr o £100,000 yn cael ei gynnig gan swyddogion sy’n parhau i chwilio am lofruddiwr/wyr Doreen Morris a gafodd ei lladd yn ei chartref yng Nghaergybi yn 1994.

Mae dydd Iau, y 25ain o Fawrth, yn nodi unfed pen-blwydd ar bymtheg marwolaeth y ddynes 64-oed. Darganfuwyd ei chorff wedi llosgi’n ddrwg yn ei chartref ym ‘Mhenrhyn Uchaf’ ar Ffordd y Felin.

Ar ddydd Llun, yr 22ain o Fawrth, bydd dros 11,500 o bamffledi gydag apêl am wybodaeth yn cael eu dosbarthu gan y Post Brenhinol i dai yn ardal Caergybi.

Roedd Mrs Morris yn ddynes iach a phoblogaidd a daeth ei bywyd i ben mewn ffordd drasig iawn. Roedd hi’n byw ar ei phen ei hun gyda’i chŵn mewn ardal wledig ar gyrion Caergybi ac fe’i gwelwyd yn fyw diwethaf ar ddydd Iau, y 24ain o Fawrth, 1994.

Darganfuwyd corff Mrs Morris gan y Gwasanaeth Tân wedi ei losgi’n ddrwg ar ôl iddynt fynd i’r tŷ yn ystod oriau mân bore Gwener, y 25ain o Fawrth 1994. Achoswyd difrod difrifol i’r tŷ ac fe gadarnhaodd archwiliad post mortem fod Mrs Morris wedi marw cyn i’r tân ddechrau.

Cynhaliwyd ymchwiliad gan yr heddlu ar y pryd a darganfuwyd fod rhywun wedi torri i mewn i gartref Mrs Morris ac wedi dwyn eiddo, a bod y byngalo wedi cael ei roi ar dân.

Meddai’r Ditectif Prif Arolygydd John Hanson o Dîm Digwyddiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn apelio ar unrhyw un, ac ar bobl ardal Caergybi yn benodol, sydd â gwybodaeth am yr ymchwiliad hwn i gysylltu â ni.

“Mae amser o hyd i bobl ddod ymlaen i roi’r gwir i ni am y rhai sy’n gyfrifol am y llofruddiaeth ddideimlad yma. Roedd Mrs Morris yn ddynes oedrannus a oedd yn byw ar ei phen ei hun gyda dau gi anwes ac mae’n debygol ei bod wedi cael ei llofruddio oherwydd ei bod wedi tarfu ar rywun neu rywrai oedd wedi torri mewn i’w chartref.

“Nid yw’r ymchwiliad wedi dod i ben ac ni fydd yn cau hyd nes ein bod wedi ei ddatrys, ac fe allwn gynnig cefnogaeth a diogelwch i unrhyw un sydd â gwybodaeth a fydd yn arwain at arestio ac euogfarnu llofruddiwr/wyr Doreen Morris.”

Pedwar mis ar ddeg ar ôl marwolaeth Mrs Morris, cyhuddwyd dyn a oedd yn byw’n lleol gyda’i llofruddiaeth gan swyddogion. Ond cafodd ei ryddhau gan y rheithgor yn Llys y Goron Caer.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, os ydych yn galw o Gymru, 0845 607 1001 (llinell Gymraeg), 0845 607 1002 (llinell Saesneg) neu Taclo’r Taclau Cymru’n ddienw ar 0800 555 111.

Gallwch hefyd anfon neges testun at 66767 neu e-bostio - northwalespolice@north-wales.police.uk

********************************************************************************************************

A £100,000 reward is being offered by detectives hunting the killer/s of Doreen Morris, who was murdered at her home in Holyhead back in 1994.

Thursday, 25th of March, marks the 16th anniversary of the death of the 64-year-old woman, whose badly burnt remains were discovered at her home ‘Penrhyn Uchaf’ on Mill Lane.

On Monday, 22nd of March, over 11,500 leaflets will be delivered by Royal Mail to properties in the Holyhead area with an appeal for information.

Mrs Morris was a healthy and popular lady whose life ended in a tragic way. She lived alone with her two dogs in a rural area on the outskirts of Holyhead and was last seen alive on Thursday, March 24th 1994.

Mrs Morris’ badly burnt remains were found by the Fire Service, who attended the fire in the early hours of Friday, March 25th 1994. The fire caused extensive damage to the property. A post mortem examination revealed that Mrs Morris had died before the fire started.

Enquiries undertaken by police at the time revealed that Mrs Morris’ home had been burgled, property had been stolen and the bungalow was set on fire.

Detective Chief Inspector John Hanson, from the Force’ Major Incident Team, said: “We are appealing to anyone, and specifically to people in the Holyhead area that have information concerning this investigation to contact us.


"There is still time for people to come forward and tell us the truth about those who carried out this callous murder. Mrs Morris was an elderly lady who lived alone with her two pet dogs, and she was probably murdered because she disturbed an intruder/s in her own home.

“The investigation has not and will not close until it is resolved, and we can offer support and protection to anyone who has information that will lead to the arrest and conviction of Doreen Morris’ killers.”

Fourteen months after Mrs Morris’ death officers charged a man, who lived locally, with her murder, but he was later cleared by a jury at Chester Crown Court.

Anyone with information is urged to contact North Wales Police on 101, if you are calling from Wales, 0845 607 1001 (Welsh line), 0845 607 1002 (English line) or Crimestoppers Wales anonymously on 0800 555 111.

Alternatively send a text message to 66767 or email – northwalespolice@north-wales.police.uk