Gwrthdrawiad Boduan

Mae dyn 61 mlwydd oed mewn cyflwr critigol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ym Moduan ger Pwllheli nos Wener, Medi 3ydd.

Cafodd gwasanaethau brys eu galw ychydig cyn 10.15 yh yn dilyn adroddiad ynglyn รข gwrthdrawiad ar yr A497 ym Moduan, rhwng Pwllheli a'r Llyn.

Deallir fod car wedi tarro cerddwr.

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio i unrhyw gyda gwybodaeth i ffonio'r heddlu un ai ar 101 neu 0845 607 1001 (llinell Gymraeg) neu 0845 607 1002 (llinell Saesneg).