Gwyl y Faenol 2010

Mae Gŵyl y Faenol, sy'n enwog yn rhyngwladol, yn dychwelyd eleni i Stad y Faenol ar 27 - 30 Awst i ddathlu 10 mlynedd o beth o gerddoriaeth gorau'r byd mewn un o'r lleoliadau hyfrytaf. I nodi'r 10fed Pen-blwydd eleni mae Bryn Terfel, Ymddiriedolaeth Gŵyl y Faenol a'r hyrwyddwr newydd Universal Music Classical Management & Productions (UMCMP) yn falch o gyhoeddi'r rhestr o sêr ar gyfer y Faenol 2010, ynghyd â strwythur newydd a rhai elfennau newydd cyffrous ar gyfer yr Ŵyl.

Mae Ymddiriedolaeth Gŵyl y Faenol, Bryn Terfel ac UMCMP yn ddiolchgar i Gyngor Gwynedd am gefnogi'r Ŵyl eleni. Wrth gyhoeddi enwau'r artistiaid fydd yn cymryd rhan, dywedodd Bryn: "Mae Gŵyl eleni'n ddathliad o'r 10 mlynedd ddiwethaf a hefyd strwythur newydd i'r Ŵyl fydd yn sicrhau dyfodol disglair. Rydyn ni wedi ail-wahodd rhai o'r artistiaid sydd wedi gwefreiddio'n cynulleidfaoedd ac rydyn ni hefyd yn cyflwyno rhai elfennau newydd i'r penwythnos. Rydw i'n edrych ymlaen at groesawi pobl o bob cwr o Brydain a'r byd i'm cornel i o Gymru unwaith eto, ac i benwythnos gŵyl y banc cerddorol bythgofiadwy!"

I agor penwythnos y 10fed pen-blwydd yma, mae Gŵyl y Faenol yn estyn croeso nôl i'r band poblogaidd o'r Iwerddon, Westlife, un o'r grwpiau werthodd docynnau gyflymaf a gorau yn hanes yr Ŵyl. Fe fyddan nhw'n dychwelyd i lwyfan y Faenol yn sgil eu taith arena 2010 o gwmpas Prydain.

Mae'r Gala Operatig ar y nos Sadwrn hefyd yn gweld dychwelyd wyneb cyfarwydd ac, erbyn hyn, lais byd-enwog i'r llwyfan. Ers i'r tenor Rolando Villazon roi ei berfformiad cyntaf gwefreiddiol yn y Faenol yn 2007 - oedd yn cynnwys jyglo a chlownio tra'n canu'r C uchaf - mae wedi dod yn enw cyfarwydd ymhlith dilynwyr cerddoriaeth glasurol ar hyd a lled y byd. Bydd yn cyrraedd Stad y Faenol yn syth o'i gyfnod fel beirniad ar raglen ITV Popstar to Opera Star a pherfformiadau mewn operâu a chyngherddau rhyngwladol. Mae Ronaldo'n siŵr o greu mwy o atgofion hudol bythgofiadwy wrth iddo ymuno â Bryn Terfel a Cherddorfa Opera Genedlaethol Cymru dan arweiniad Gareth Jones ar gyfer noson o Opera a cherddoriaeth glasurol dan y sêr. Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw gala operatig yn gyfan heb ambell ddeuawd serch ac felly fe fydd Bryn a Ronaldo'n cael cwmni dwy gantores ryngwladol arbennig, y soprano Sylvia Schwartz a'r mezzo o Romania Ruxandra Donose. Mae'n addo bod yn noson o leisiau godidog!

Mae Tân y Ddraig yn dychwelyd, ond ar Ddydd Sul eleni. Bydd gwedd newydd i Tân y Ddraig 10 gyda chyfuniad tanllyd o rai o brif fandiau Cymru a rhai o gantorion gorau diwydiant cerdd Prydain. Mae'r Ŵyl yn awyddus i sicrhau bod Tan y Ddraig 10 yn rhoi cyfle i egni cerddoriaeth Cymraeg cyfredol rannu llwyfan â pherfformwyr sydd wedi sefydlu'n rhyngwladol. Bydd Tan y Ddraig 10 yn gyfuniad gwych o fandiau Cymraeg yn cynnwys y grŵp o Lanberis Yr Ods, Masters in France, a chanwr a chyfansoddwr caneuon newydd cyffrous o Gaerdydd Pete Lawrie (sydd newydd arwyddo i Field/Island Records). Yn arwain y noson fydd y band sydd wedi eu henwebu am wobr BRIT, The Feeling, gyda'r ffefrynnau 'Indie' Shed Seven, Athlete a The Roads hefyd yn cymryd rhan.

Mae mwy i bawb i'w fwynhau Ddydd Llun Gŵyl y Banc, gyda'r Ŵyl yn llwyddo i gynnwys dau berfformiad mewn un diwrnod. Amser cinio, bydd y gantores a anwyd yn Seland Newydd, Hayley Westenra yn rhoi ei hail berfformiad yng Ngŵyl y Faenol, ac yn ymuno â hi fe fydd Rhydian, yn rhoi ei berfformiad cyntaf ar lwyfan yr Ŵyl, gan berfformio gyda'i gilydd mewn sioe ar gyfer y teulu cyfan. Bydd cyngerdd 70ain Pen-blwydd Brwydr Prydain gyda Band Canolog y Llu Awyr Brenhinol yn cael ei gyflwyno gan y Sgwadron-bennaeth Tom Jones, aelod o deulu'r Fonesig Vera Lynne. Bydd yn ddathliad o ddewrder, aberth a rhyddid, yn cynnwys peth o'r gerddoriaeth fwyaf poblogaidd ac anerchiadau mwyaf ysbrydoledig y cyfnod, gyda Spitfire yn hedfan uwchben i gloi'r cyngerdd. Bydd y cyngerdd er budd Cronfa Les y Llu Awyr Brenhinol.

Er mwyn sicrhau bod yr Ŵyl yn dod i ben ar nodyn uchel a digrif tu hwnt, bydd y perfformiad fydd yn cloi'r Ŵyl ar y nos Lun yn gweld comedi'n gwneud ymddangosiad cyntaf yn y Faenol. Bydd Al Murray, Landlord Tafarn mwyaf doniol Prydain yn talu ymweliad â Gŵyl y Faenol i weini ei fath arbennig ei hun o ddoniolwch y bar. Yn 2009 gadawodd Tafarnwr y Bobl dros 230,000 o'i ddilynwyr selog yn gorlifo o chwerthin, yn ystod ei daith i geisio trwsio Prydain Doredig. Mae hwn yn gyfle i ddal y 'Guv'nor' yn y sioe unigol yma fydd yn llawn o'i ddefnydd gorau o'r blynyddoedd diweddara. Bydd y Landlord Tafarn yn cael cwmni rhai o'r ffefrynnau oddi ar y teledu Ed Byrne, Lloyd Langford a aned ym Mhort Talbot, Milton Jones a'r dyn doniol o'r Felinheli Tudur Owen. Bydd enwau ychwanegol yn cael eu ychwanegu i'r noson maes o law.

Bydd tocynnau'n mynd ar werth Ddydd Iau 13 Mai am 09.00am. Mae'r tocynnau i gyd ar gael o wefan yr Ŵyl www.faenolfestival.com neu trwy ffonio swyddfa docynnau Venue Cymru ar 01492 872000, Galeri Caernarfon ar 01286 685222 neu Silver Star Holidays ar 01286 671771. Eleni, am y tro cyntaf, mae Gŵyl y Faenol yn falch o fod yn gweithio gyda Chanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd (02920 636464) i gynnig swyddfa docynnau yn y brifddinas.

Yr amserlen a phrisiau tocynnau yw:

Dydd Gwener 27ain Awst 2010 – Westlife

Drysau – 17.30
Sioe'n Dechrau – 20.00

Seddi – £42.50
Gwair - £35.00

Dydd Sadwrn 28ain Awst 2010 – Gala Operatig

Drysau – 17.30
Sioe'n Dechrau 20.00

Seddi – £42.50
Gwair - £35.00

Dydd Sul 29ain Awst 2010 – Tan y Ddraig 10

Drysau – 15.00

Seddi - £35.00
Gwair - £28.50

Dydd Llun 30ain Awst 2010 – 70ain Pen-blwydd Brwydr Prydain

Drysau – 12.00
Sioe – 13.00

Seddi - £25
Gwair - £20
Plant dan 16 – Gwair - £15

Dydd Llun 30ain Awst 2010 – Al Murray Pub Landlord!

Drysau – 17.30
Sioe'n dechrau – 19.30

Seddi - £32.50
Gwair - £25.00

Mae disgownt o 10% ar gael ar gyfer archebion o 10 neu fwy. Bydd archebion trwy'r swyddfa docynnau, ar y ffôn a'r rhyngrwyd yn amodol ar ffi archebu, ond ni fydd ffi archebu'n cael ei godi ar bobl sy'n dod o'r swyddfa docynnau yma'n bersonol ac sy'n talu gydag arian neu siec.

Bydd cyhoeddiadau pellach ynglŷn â'r perfformwyr yn cael eu gwneud dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.