Gwyrddni Gwynedd yn Plesio

Mae dau o barciau gwledig Gwynedd yn cymryd eu lle ymysg llecynnau gwyrdd gorau Prydain drwy ennill Gwobr Baner Werdd genedlaethol.

Nid dyma’r tro cyntaf i Barc Glynllifon ger Llandwrog a Pharc Padarn yn Llanberis, sy’n cael ei redeg gan Gyngor Gwynedd, ennill y wobr - sef cydnabyddiaeth fod y parciau yn groesawgar, glan a diogel.

Dywedodd y Cynghorydd Roy Owen, yr Arweinydd Portffolio sydd â chyfrifoldeb am barciau gwledig Cyngor Gwynedd:

“Rydym yn falch iawn fod Parc Glynllifon a Pharc Padarn wedi ennill y wobr yma - gall y sir ymfalchïo yn y llecynnau hyfryd sy’n cynnig profiad unigryw i drigolion Gwynedd ac  ymwelwyr. 

“Mae hyrwyddo treftadaeth yr ardal leol yn ogystal â chadwraeth ac edrych ar ôl yr amgylchedd naturiol yn bwysig iawn i waith y parc, sy’n cael ei adlewyrchu yn y llwyddiant yma ac yn y ffaith ei fod yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

“Dyma ffrwyth llafur staff y parciau, a hoffwn ddiolch iddynt oll am eu brwdfrydedd, gwaith caled a’u hymroddiad.”

Mae safleoedd yn cael eu beirniadu yn flynyddol gan rwydwaith o dros 600 o unigolion proffesiynol, gyda’r safleoedd buddugol yn cael eu gwobrwyo gyda Baner Werdd.

**********************************************************************

Two country parks in Gwynedd have been recognised as among the best green spaces in Britain by winning the national Green Flag Award.

Parc Glynllfon near Llandwrog and Parc Padarn in Llanberis, which are run by Gwynedd Council, have both won this award before in recognition for its warm welcome, and for being a clean and safe place to visit.

Councillor Roy Owen, Gwynedd Council’s Portfolio Leader with responsibility for country parks, said:

“We are very proud that Parc Padarn and Parc Glynllifon have won this award – the whole county can take pride in the fact that we have these wonderful places which offer an unique experience for Gwynedd residents and visitors alike.

“Promoting the local area’s heritage as well as conservation and caring for the natural environment plays a very important part in the parks’ work. This is reflected in this success and in the fact that the parks draw in thousands of visitors every year.

“These awards are a testament to the staff’s hard work; I would like to thank them all for their enthusiasm and dedication.”

Parks and open spaces are judged annually by a network of 600 professional individuals, the successful sites are awarded with a Green Flag.