Heddlu Chwilio 5 Adeilad ym Mae Colwyn
Mae Heddlu'r Gogledd wedi bod yn chwilio 5 adeilad ym Mae Colwyn fel rhan o ymgyrch i ddod o hyd i eiddo sydd wedi ei ddwyn.
Roedd 26 o swyddogion yn rhan o'r chwilio - gan gynnwys ditectifs o swyddfa'r CID a gofalwr ci.
Fe ddywedodd y DCI Emma Gardner wrth Heart:
"Ers dechrau Ebrill mae 'na sawl achos o ladrata wedi digwydd yn ardal Bae Colwyn. Oherwydd gwybodaeth sy'n ein cyrraedd ni - rydym ni wedi penderfynu defnyddio warant chwilio i geisio dod o hyd i eiddo sydd wedi ei ddwyn, sicrhau y cyhoedd ein bod ni'n gwneud rhywbeth, a chasglu mwy o wybodaeth fydd yn gallu'n harwain ni at fwy o droseddwyr."
Arest
Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran yr heddlu bod sawl eitem wedi eu canfod yn yr adeiladau. Mae yna brofion bellach yn digwydd i weld a ydyn nhw wedi eu dwyn.
Yn ogystal - cafodd dyn 22 oed ei arestio dan amheuaeth o fod a chyffur dosbarth B yn ei feddiant. Mae yntau yn y ddalfa yn aros cael ei gwestiynu.
Parhau i Gefnogi'r Gymuned
Yn ol y DCI Emma Gardner bydd yr heddlu yn parhau i wneud patrol yn yr ardal i gefnogi pobl lleol.
"Fyddwn ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r gymuned. Os ydyn nhw angen unrhyw wybodaeth neu gymorth fe allan nhw gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru. Rydym ni yma a fyddwn ni'n gwrando ar unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw".