Helpu Plant Ffarm Gadw Ffermio

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gobeithio y bydd yr economi wledig yn derbyn hwb heddiw wrth iddyn nhw gyhoeddi eu bod yn llacio rheolau cynllunio tir.

Fe gyhoeddodd y Weinidog Amgylchedd, Jane Davidson, y cynllun newydd - TAN 6 - yn y Sioe Frenhinol.

Bydd yn gwneud yn haws i fusnesau gychwyn yng nghefn gwlad a helpu busnesau sy' yno yn barod i dyfu.

Yn ogystal, mae'r llywodraeth yn gobeithio bydd y mesuron yn helpu ffermwyr drosglwyddo eu busnesau i'r genedlaeth nesaf drwy alluogi plant fferm i godi tai ar dir eu rhieni.

Cynllunio Gwyrdd

Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi datblygiadau sy' ddim yn effeithio'n ormodol ar yr amgylchedd. 

Fe ddywedodd Jane Davidson:

"Rhaid i'r system gynllunio ymateb i anghenion cymunedau gwledig. Rhaid iddi helpu i sicrhau bod gwaith datblygu priodol yn cael ei wneud yn y man cywir ar yr adeg gywir, drwy ddarparu digon o dir ar gyfer y tai fforddiadwy a’r cyfle sydd ei angen ar y bobl yn ein cymunedau gwledig i gael swydd.

"Mae'n debyg y bydd y canllawiau a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn gwneud hynny. Maen nhw'n sicrhau'r amgylchedd priodol i ganiatáu i fusnesau gwledig fuddsoddi a thyfu er mwyn rhoi cyfle i’r bobl leol gael swydd, cynyddu ffyniant lleol a lleihau'r angen i deithio i'r gwaith.

"Maen nhw hefyd yn helpu ein cynlluniau presennol ar gyfer tai gwledig fforddiadwy drwy annog awdurdodau lleol a pherchnogion tir i nodi safleoedd allai gael eu datblygu a defnyddio dulliau amrywiol o weithredu'r polisi."