Llai o blant yn canu offerynau cerdd

Mae therapydd cerdd yng Ngwynedd a Môn wedi dweud wrth Heart eu bod yn poeni am waith ymchwil newydd sy'n dangos mai dim ond un ym mhob tri phlentyn sydd bellach yn gallu chwarae offeryn cerdd.

Ar ben hynny, mae'r ymchwil yn dangos nad yw mwy na hanner rhieni yn meddwl bod cerddoriaeth yn bwysig i addysg eu plant.

Ond i Elise Gwilym sy'n gweithio fel therapydd cerdd o Ganolfan William Matthias yng Nghaernarfon, mae'n hanfodol:

"Mae' e'n rhywbeth hwylus i wneud, mae o hefyd yn rhywbeth cymdeithasol i wneud.  Mae e'n ffordd wych o ddatblygu ysgiliau ma' o allu dadansoddi, o sgiliau mathemategol, sgiliau cofio a jesd y datblygiad yr ymennydd.

"Mae cerddoriaeth yn gwneud i lot o wahanol ardaloedd yr ymennydd i gyd weithio.  Felly cerddoriaeth mwy 'na dim sy'n mynd i ddatblygu'r sgiliau yma yn eich plentyn."

Gwrandewch ar gyfweliad Steffan Messenger o Heart gyda Elise Gwilym drwy glicio fan hyn.