Llai o Hebryngwyr Lolipop i Wynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried adroddiad sy'n argymell adolygu'r nifer o ddynion a merched lolipop yn y sir...
Os bydd argymhellion yr adroddiad yn cael eu derbyn - fe allai'r nifer o hebryngwyr ar groesfannau ddisgyn o 50 i 9.
Yn ol yr adroddiad - mae'n rhaid ystyried a all y Cyngor gyfiawnhau cyflogi dyn neu fenyw lolipop ar gyfer croesfan lle mae llai na phymtheg o blant yn croesi.
LINC: Darllenwch yr adroddiad yn fan hyn.
Mae'r Cyngor yn cwrdd heddiw i drafod y mater.