Llai o Waith Ffyrdd Dros Wyl y Banc

Mae disgwyl i 16 miliwn o bobl deithio ar ffyrdd y wlad dros y penwythnos.

Mae disgwyl traffic trwm ar brif-heolydd Gogledd Cymru, gyda'r A55 yn cael ei effeithio'n sylweddol.

Ond o leiaf fydd ddim rhaid i yrrwyr boeni am waith atgyweirio ffyrdd.

Fe ofynodd Heart wrth Llywodraeth Cynulliad Cymru beth oedd eu cynlluniau ar gyfer y ffyrdd dros wyl y banc.  Yn ol llefarydd ar ei rhan:

"Dros Wyl y Banc fyddwn ni'n atal neu gymryd i ffwrdd y mwyafrif o'n gwaith ffyrdd lle bynnag sy'n bosib er mwyn cadw traffic i symud... fel yr arfer fyddwn ni'n cadw llygad barcud ar y sefyllfa hefyd."

"Fyddwn ni'n darparu gwybodaeth cyson i'n defnyddwyr ffurf yng Nghymru drwy gwasanaeth gwybodaeth draffic Llywodraeth y Cynulliad, Traffic Wales."

 

"Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth byw ar wefan Traffic Wales - www.traffic-wales.com neu drwy eu llinell ffon 24 awr y dydd - 0845 6026020 24.

Rhybudd

Fe ychwanegodd y llefarydd:

"Mae gwyliau banc yn rhai o amserau prysura'r flwyddyn ac ry'm ni'n cynghori pobl i gynllunio eu teithiau'n ofalus a defnyddio ein gwasanaeth gwybodaeth".