Llinell Ffôn Cyngor Gwynedd yw'r Gorau

Mae canolfan gyswllt ffôn Cyngor Gwynedd wedi ei enwi fel y gorau ym Mhrydain...

 Bu canolfannau cyswllt awdurdodau lleol ar draws y wlad yn cael eu archwilio a derbyniodd ganolfan Cyngor Gwynedd, sef Galw Gwynedd, y sgôr uchaf o 90% dros y 12 mis diwethaf.

Cafodd siopwyr cudd eu defnyddio i gynnal yr arolwg.  Roedd staff y ganolfan yn cael eu marcio ar wahanol agweddau o’u gwaith gan gynnwys cwrteisi, proffesiynoldeb, parodrwydd i helpu a’r amser gymrodd hi i ateb cwestiynau.

Dywedodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, Deilydd Portffolio Gofal Cwsmer Cyngor Gwynedd:

“Rydw i’n falch iawn o glywed y newyddion da yma fod gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan Galw Gwynedd yn cael ei gydnabod gan Magpie Research Service fel un o’r goreuon. Mae Cyngor Gwynedd wedi ei ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib ac rydw i’n llongyfarch staff am eu gwaith caled.”