Llofruddiaeth Ffion - dyn nôl yn y ddalfa

Mae dyn 53 oed o Wynedd wedi ymddangos ger bron ynadon heddiw wedi ei gyhuddo o lofruddio'r weithwraig gofal Ffion Wyn Roberts.

Cafodd Iestyn Davies, gweithiwr ffatri o Borthmadog, ei anfon yn ol i'r ddalfa wedi gwrandawiad dri munud o hyd yn Llys Ynadon Caernarfon. Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio'r ferch 22 oed ym Mhorthmadog ar Ebrill 10fed.

Bydd yn ymddangos ger bron Llys y Goron Caernarfon ar Orffennaf 9ed. Mynnodd ei gyfreithiwr na fyddai'n gwneud ymgais am fechniaeth yn y cyfamser.

Daeth Davies i'r doc yn gwisgo siwmper las yng nghwmni dau ddyn diogelwch. Roedd y gwrandawiad yn Gymraeg. Gwnaeth gadarnhau ei enw, ddyddiad geni a nad oedd e'n byw yn unrhyw gyfeiriad penodol.

Cafodd Ffion ei chanfod wedi'i thagu mewn hen gamlas llathau o'i chartref ar ol bod ar noson allan mewn tafarn yn Nhremadog.

*********************************************************************************************************

A 53-year-old Gwynedd man has appeared before magistrates today accused of the murder of care worker Ffion Wyn Roberts.

Iestyn Davies, a factory worker from Porthmadog of no fixed address, was remanded in custody during a three-minute hearing at Caernarfon magistrates’ court. He is accused of killing the 22-year-old at Porthmadog on April 10.

He will next appear before Caernarfon crown court on July 9. His solicitor indicated that there would be no bail application in the meantime.

Davies, wearing a blue sweatshirt, appeared in the dock with two security guards. The hearing was in Welsh and he confirmed his name, date of birth and that he was of no fixed abode.

Ffion was found strangled in a drainage canal a short distance from her home after attending a party in a pub at Tremadog, a mile away.