Llyfrgelloedd Gwynedd yn Ffynnu

Mae pobl Gwynedd yn ddarllenwyr o fri, yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd.

Dyma’r haf prysuraf ers deng mlynedd i lyfrgelloedd y sir gyda mwy o bobl nag erioed yn defnyddio’r adnoddau rhad ac am ddim i fwynhau’r cyfrolau diweddaraf, gwneud gwaith ymchwil neu astudio, defnyddio’r cyfrifiadur a phori’r we neu fenthyg DVD neu CD.


Mae’n debyg fod y tywydd gwlyb a digalon dros yr haf wedi cadw pobl i mewn, ond gall llyfr da o’r llyfrgell leol fod yn ddihangfa i fyd arall - glaw neu hindda.


Dywedodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, arweinydd portffolio Gofal Cwsmer ar Gyngor Gwynedd, gyda chyfrifoldeb dros lyfrgelloedd:

 

“Dyma newyddion rhagorol fod y defnydd o lyfrgelloedd Gwynedd yn ystod Gorffennaf ac Awst wedi cynyddu, gyda benthyciadau yn codi o ddeg y cant. Rydym yn gobeithio bydd y bobl sydd wedi defnyddio’r llyfrgell dros yr haf yn parhau i’w defnyddio drwy’r flwyddyn ac yn manteisio ar y gwahanol adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael.

 

“Mae hyn yn dystiolaeth digamsyniol o bwysigrwydd cynnal gwasanaeth sydd ymysg y goreuon drwy Gymru gyfan fel y gallwn ymestyn eto fyth yr ystod o ddarpariaeth a gynigir yn ein llyfrgelloedd.”

 

Ychwanegodd Hywel James, Prif Lyfrgellydd Cyngor Gwynedd:

 

“Y llyfrgell brysuraf dros yr haf oedd Llyfrgell Nefyn, sydd wedi ei hadnewyddu yn ddiweddar, ble gwelwyd cynnydd mewn benthyciadau o 45%. Roedd Llyfrgell Bangor, sydd hefyd wedi ei hadnewyddu, yn brysur iawn hefyd. Mae’r defnydd o gyfrifiaduron wedi cynyddu ym mhob llyfrgell, ond yn enwedig ym Mhenygroes.

 

“Mae’r twf yma yn newyddion da, yn enwedig gan fod asesiad diweddar wedi dangos fod defnyddwyr llyfrgelloedd Gwynedd yn fodlon iawn â’r gwasanaeth a’r adnoddau sydd ar gael.”

 

Am fwy o wybodaeth am Wasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd ewch i’r wefan www.gwynedd.gov.uk/llyfrgelloedd