Marwolaeth Heb Esboniad Ddim yn Amheus
Mae heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth "heb esboniad" ar Ynys Mon yn dweud nad ydyn nhw'n ymdrin a'r achos fel trosedd...
Cafodd swyddogion eu galw i gartref yn Llanddaniel Fab am 1445 GMT ddydd Sadwrn. Roedd corff dyn 24 oed oddi mewn.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod nhw'n cynnal ymholiadau ar ran y crwner.
Mae swyddogion arbenigol mewn cysylltiad a'r teulu.
Mae archwiliad post mortem yn cael ei drefnu gyda phatholegydd o'r Swyddfa Gartref.