Michael Douglas yn Trechu Canser
Mae gwr yr actores o Gymru - Catherine Zeta Jones wedi trechu ei ganser...
Fe glywodd Michael Douglas nol ym mis Awst bod ganddo ganser y gwddf. Ers hynny mae e wedi bod yn derbyn triniaeth.
Yn ystod cyfweliad gyda sianel deledu NBC - fe gyhoeddodd seren y ffilm Wall Street - bod meddygon wedi dweud ei fod e bellach yn holliach.