Mr Davies yw Athro y Flwyddyn!
Mae athro ysgol gynradd o Ogledd Cymru wedi'i enwi yn Athro'r Flwyddyn...
Yn ol beirniaid y Teaching Awards - roedd gan Llew Davies yr "X Factor".
Mae Mr Davies yn dysgu plant blwyddyn chwech yn Ysgol Cae Top - Bangor.
Cyffrous
Yn ol gwefan y Teaching Awards mae Mr Davies yn athro "cyffrous a deinamig y bydd plant yn ei gofio am weddill eu bywyd".
Mae gwersi'r athro Gwyddoniaeth "yn llawn antur ac maen nhw'n sicrhau bod y plant wir yn gwneud gwelliant."
Cafodd Llew Davies ei fagu ar fferm lefrith ar Ynys Mon ac mae wedi ei gymeradwyo am helpu plant siarad y Gymraeg.
LLUN: Logo Ysgol Cae Top o'u gwefan - http://www.caetop.gwynedd.sch.uk/.