Myfyrwyr yn Deifio am Sbwriel
Mae criw o fyfyrwyr o Brifysgol Bangor wedi bod yn clirio'r arfordir o sbwriel - o dan y dwr!
Mae'r tim o Glwb Deifio'r Brifysgol wedi dod o hyd i hen feics, teiars, poteli a rhwydi pysgota.
Dros y penwythnos fuon nhw ger Pier Mackenzie yng Nghaergybi - mae'r ardal yn boblogaidd gyda nofwyr ac felly roedd clirio'r ardal o sbwriel yn bwysig i safon y dwr a iechyd a diogelwch y pobl sy'n mynd yno.
Mae'n rhan o brosiect gwirfoddoli ehangach sy'n cael ei redeg gan Undeb y Myfyrwyr.
I glywed mwy cliciwch ar gyfweliad Steffan Messenger o Heart gyda Steven Barnard - hyfforddwr y deifwyr gyda Chlwb SwbAcwa Prifysgol Bangor.
SAIN: Steven Barnard yn siarad.