Ofn Clowns? Dyma'r ateb...

Mae'r syrcas diweddara' i ddod i Wynedd a Mon yn cynnig sesiynau therapi i bobl sydd ag ofn clowns.

Bydd Kakehole a Popol - clowns syrcas deithiol John Lawson - yn helpu unrhyw un sydd a diddordeb i oresgyn eu hofnau.

Mae'r ddau yn gobeithio dangos i bobl bod clowns yn gyfeillgar ac yn llawn hwyl.

Fuodd Popol yn dweud wrth Heart sut mae'r sesiynau'n gweithio:

"Maen nhw'n cwrdd a ni - yn ein dillad cyffredin, heb ddim colur - a ry'm ni'n sgwrsio am eu hofnau nhw.  Yna 'dy ni'n mynd a nhw am dro o amgylch y syrcas ac yn dangos iddyn nhw mai ond esgus ac actio mae clowns."

"Os ydyn nhw'n gyfforddus a hynny - fyddwn ni'n gwisgo ein dillad clowns ac yn dangos ein perfformiad ni iddyn nhw.  Ond gan eu bod nhw wedi'n gweld ni yn ein dillad cyffredin mae nhw'n fwy cyfforddus.  Weithiau fe fyddan nhw'n dod i wneud darn bach o'r perfformiad gyda ni.  Yn y pen-draw ry'm ni'n trio dod o hyd i'r clown sydd du mewn i bob un ohonom ni".

Cysylltu

Bydd syrcas John Lawson yn teithio ar hyd a lled Ynys Mon a Gwynedd gydol mis Awst.  Os oes gan rywun awydd i fynd i sesiwn therapi yna fe ellwch chi ffonio 07860498833.

Coulraphobia

Mae bod ag ofn o glowns yn ffobia swyddogol - coulraphobia - ac yn ymwneud ag ofni'r hyn sydd du hwnt i fwgwd.

Yn ol arolwg diweddar - coulraphobia yw trydydd ffobia mwya'r genedl.  Ofn pryfed cop a nodwyddon sydd ar frig siart y ffobias