Pamffled yn Rhoi Cyngor i Blant yr Ardal

Mae llyfr gwybodaeth newydd wedi'i lawnsio i blant a phobl ifanc Gwynedd a Môn er mwyn darparu cyngor bywyd iddyn nhw.

Mae’r llyfr Rwyt yn Bwysig wedi'i gynhyrchu gan Fwrdd Lleol Diogelu Plant Gwynedd a Môn.  Mae Cyngor Gwynedd yn ei ddisgrifio fel "map bywyd angenrheidiol i bobl ifanc".

Mae’n cynnwys cyngor ar ystod eang o faterion a phroblemau y gall pobl ifanc eu hwynebu - gan gynnwys cyffuriau ac alcohol, bwlio, problemau iechyd meddwl fel anhwylderau bwyta neu hunan niweidio a thriwantiaeth.

Hyrwyddo Lles a Sicrhau Hawliau

Mae'r Bwrdd Lleol Diogelu Plant (BLDP) yn dweud mai eu bwriad drwy gyhoeddi'r pamffled yw amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed, i hyrwyddo lles plant a sicrhau hawliau plant yn y ddwy sir.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Iwan Trefor Jones: “Mae plant a hawliau plant ar frig yr agenda i’r holl fudiadau sy’n cael eu cynrychioli ar y bwrdd ac rydym yn wir obeithio bydd y llyfr yma o gymorth i’r plant hynny sydd ei angen.

“Er gwaethaf pa mor dywyll mae pethau yn ymddangos a pha mor unig mae rhywun gallu teimlo, byddwn yn dymuno i bob plentyn sy’n teimlo eu bod angen help wybod fod llawer o bobl yn poeni amdanynt ac eisiau bod o gymorth.”

Ychwanegodd Elfyn Jones, Rheolwr Busnes BLDP: “Rydw i’n gobeithio y bydd plant a phobl ifanc o bob oedran a chefndir yn gweld fod y llyfryn o ddefnydd.

“Mae pob math o wybodaeth rhwng y cloriau yn ymwneud a straen, camddefnyddio cyffuriau a sylweddau eraill, pobl yn cymryd mantais yn rhywiol ac arweiniad ar bethau mae’n bwysig fod pobl ifanc yn gwybod amdanynt megis perthynas, iechyd, cadw’n ddiogel a’u hawliau.

“Mae nodiadau hwylus fyddai’n help i bobl ifanc ddelio â gwahanol sefyllfaoedd. Mae hefyd rhifau ffôn ar gyfer grwpiau lleol a chenedlaethol lle gall pobl ifanc gael cymorth pellach petai angen.”

Lawrlwytho'r Llyfryn

Gall y llyfryn helpu pobl ifanc pan maent yn teimlo nad oed unlle iddynt droi. Y mae ar gael o’r wefan www.gwynedd.gov.uk/RwytYnBwysig neu www.ynysmon.gov.uk/RwytYnBwysig