Peilot llifogydd Pwllheli

Mae trigolion Pwllheli yn cael eu hannog i gymryd rhan a chyfrannu mewn prosiect arloesol i ganfod atebion hirdymor i ddelio gydag effeithiau newid hinsawdd yn yr ardal.

Mae’r cynllun ym Mhwllheli yn un o dair astudiaeth o’i fath yng Nghymru sy’n bwrw golwg ar sut y gellir rheoli llifogydd yn yr hirdymor. Mae’r prosiect yn anelu at adnabod datrysiad cynaliadwy a fydd yn gallu ymdopi gydag effeithiau risg llifogydd ddaw yn sgil newid hinsawdd.

Fel rhan o’r prosiect, bydd arddangosfa gyhoeddus yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli'r wythnos nesaf. Bydd hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd ddod i ddysgu mwy am y gwaith sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd, gan roi cyfle iddynt ddweud eu dweud am sut y maent yn credu y dylid mynd i’r afael ag effeithiau

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts sy’n arwain ar yr Amgylchedd ar Gyngor Gwynedd:

“Yn ystod blynyddoedd diweddar, rydym wedi gweld fod newid hinsawdd yn cael effaith gwirioneddol ar rai ardaloedd lleol ac rydym wedi gweld nifer o achosion o lifogydd yn cael effaith ym Mhwllheli ei hun a’r ardal gerllaw.

“Dyna pam fod Cyngor Gwynedd yn gweithio gyda nifer o bartneriaid ar y prosiect pwysig hwn er mwyn gweld sut y gallwn reoli’r broblem a gweithio gyda thrigolion a busnesau lleol i ddatblygu cynlluniau i ddelio gyda’r bygythiad cynyddol o newid hinsawdd ar yr ardal.

"Ein nod yw archwilio effeithiau posib cynnydd yn lefel y môr a dwyster glaw gyda thrigolion lleol, ac i ystyried gyda’n gilydd sut y gallwn ddatblygu strategaeth hir-dymor ar gyfer yr ardal.

“Rydym yn annog trigolion Pwllheli a’r ardal leol i ddod draw i’r arddangosfa gyhoeddus yn Neuadd Dwyfor fel y gallant gael golwg ar y gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni, a chael dweud eu dweud am sut y maent yn credu y dylai cynlluniau gael eu datblygu i ddelio gyda bygythiad newid hinsawdd.”

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn gwlad Cymru a Dwr Cymru ar brosiect Peilot Pwllheli.

Bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher, 2 Mehefin a dydd Iau, 3 Mehefin a bydd ar agor o 10am hyd 4pm. Bydd swyddogion ar gael i ateb eich cwestiynau a thrafod y prosiect.

*******************************************************************************************************

Pwllheli residents are being urged to take part and contribute to an innovative project to find long-term solutions to deal with the effects of climate change in the area.

The Pwllheli project is one of just three studies being undertaken in Wales to see how flooding can be managed effectively in the long-term. The project aims to identify a sustainable solution which will be able to cope with the ongoing effect of flood risk due to climate change.

As part of the project, a two-day public exhibition will be held at Neuadd Dwyfor, Pwllheli next week so that members of the public can learn more about the work currently being undertaken and have a chance to have their say on how they think the effect of climate change should be tackled locally.

Councillor Gareth Roberts who leads on the Environment for Gwynedd Council said:

“We have seen over recent years that climate change is having a real impact on some local areas and we have seen a number of instances of flooding having an impact in Pwllheli itself and in the surrounding area.

“That is why Gwynedd Council is working with a number of partners on this important project to see how we can manage the problem and work with local residents and businesses to develop plans to deal with the growing threat climate change will bring to the area.

"Our aim is to explore the potential effects of rising sea levels and intensity of rainfall with local residents, and to consider together how we can develop a long-term strategy for the area.

“We encourage the residents of Pwllheli and the local area to come along to the public exhibition at Neuadd Dwyfor so that they can have a look at the work carried out so far, and have their say on how they think plans should be developed to deal with the threat of climate change.”

Gwynedd Council is working with the Welsh Assembly Government, Environment Agency Wales, the Countryside Council for Wales and Welsh Water on the Pwllheli Pilot project.

The exhibition will take place on Wednesday, 2 June and Thursday, 3 June and will be open from 10am to 4pm. Officers will be on-hand to answer your questions and to discuss the project.