Cyflenwad dwr wedi trwsio

Mae pibell dwr oedd yn effeithio ar gyflenwadau yn ardal Caernarfon bore 'ma wedi'i drwsio.

Trigolion Pontllyfni, Clynnog Fawr, Gyrn Goch, Capel Uchaf a Bwlch Derwen cafodd eu heffeithio am oddeutu pedair awr bore ma pan fyrstiodd pibell.

Mae peirianwyr nawr wedi trwsio'r bibell ac mae Dŵr Cymru yn ymddiheuro i'w gwsmeriaid.

Mae'n bosib y bydd rhai cwsmeriaid yn sylwi bod y dŵr wedi afliwio am gyfnod - mae hyn yn normal a dylai clirio o fewn ychydig.

Os oes unrhyw un un â phryderon, ffoniwch 0800 052 0130