Priodas Ebrill i William a Kate

Mae'r Tywysog William a Kate Middleton wedi cyhoeddi dyddiad eu priodas.

Bydd y seremoni yn cael ei chynnal ar Ebrill 29ain yn Abaty Westminster yn Llundain.

Bydd y ddau yn dychwelyd i fyw yng Ngogledd Cymru ar ol y briodas fel bod y Tywysog yn medru parhau i weithio fel peilot hofrenydd gyda'r awyrlu yn Y Fali.

Diwrnod Adre'!

Wrth ddewis Abaty Westminster fel lleoliad mae'r ddau yn camu yn ol troed nain a thaid y Tywysog William.  Fe briododd y Frenhines a Dug Caeredin yno.

Mae'r llywodraeth wedi cadarnhau y byddwn ni'n cael diwrnod o wyliau ar gyfer y briodas a bydd hynny'n golygu cael 2 benwythnos hir un ar ol y llall!  Penwythnos Pasg yw hi'r penwythnos cyn y briodas. 

Fe ddywedodd y Prif Weinidog, David Cameron -

"Bydd priodas Kate a William yn ddigwyddiad hapus a nodedig.  Rydym ni'n awyddus i nodi'r dydd fel dathliad cenedlaethol - bydd cynnal gwyl banc yn golygu y gall y nifer mwya o bobl posib gael cyfle i fwynhau'r dydd."

Fe gadarnhaodd Clarence House y bydd y Teulu Brenhinol yn talu am y briodas.