Pryder arsenig ar Fynydd Parys

Contamination fears as thieves steal vital pump

Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd ym Môn yn apelio am i offer arbennig, sydd yn atal pyllau ar Fynydd Parys rhag sychu fyny, gael ei ddychwelyd yn ddiogel.

Cafodd Pyllau Henwaith, ger Penysarn, eu dynodi fel tir llygredig y llynedd wedi i lefelau uchel o arsenig a phlwm gael ei ddarganfod o fewn yr ocr.

Gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, roedd y Cyngor Sir wedi gosod pwmp arbennig ar y safle fyddai'n sicrhau nad oedd y pyllau yn ymyl pen Dwyreiniol yr hen fwynglawdd copr yn sychu yn ystod misoedd yr haf gan achosi problemau llwch i drigolion lleol.

Cafodd y pwmp ei ddwyn yn ddiweddar, gan roi'r cynllun mewn perygl a chynyddu'r posibilrwydd o ledaenu cemegau niweidiol.

Pwysleisiodd y Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, Huw Thomas, "Nid oes unrhyw risgiau iechyd ar hyn o bryd i'r sawl sydd yn byw yn ymyl Pyllau'r Henwaith. Fodd bynnag, mae'n hastudiaethau ni wedi dangos y gall fod yna ychydig o risg os yw pobl yn anadlu'r llwch o'r pyllau dros gyfnod maith."

"Mae'n debygol y byddwch fwyaf agored i effaith y cemegau os dewch i gysylltiad uniongyrchol gyda'r ocr yn y pyllau gwaddol, ond pan fydd y d?r yn sychu, mae'n bosib i lwch yr ocr sydd ar ôl yn y pwll gael ei chwipio i fyny gan y gwynt."

Bu i dîm o'r Cyngor Sir, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefngwlad Cymru, Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch, Anglesey Mining a thrigolion lleol drafod ffyrdd o reoli'r broblem. Penderfynwyd gosod pwmp arbennig fyddai'n helpu cadw'r pyllau yn wlyb yn barhaus ac felly atal y llwch rhag chwythu i ffwrdd.

Ychwanegodd Huw Thomas, "Mae'r pwmp yn offer arbennig dros ben ac felly ddim o ddefnydd i unrhyw un arall am nad yw'n rhedeg gyda thrydan prif gyflenwad. Roedd y pwmp yn gweithio'n dda ac yn cylchdroi'r d?r yn y pyllau fel na allent sychu fyny. Byddaf yn annog y sawl sydd wedi ei ddwyn i'w ddychwelyd cyn gynted a phosib. Mae'r lladrad yma'n rhoi'r cynllun mewn perygl ac yn cynyddu'r risg o bobl yn dod i gysylltiad gyda'r cemegau sydd yn y pyllau. Mae adnoddau ariannol yn brin, ac mae'r lladrad yma'n rhoi pwysau ariannol diangen ar yr Awdurdod Lleol, yn enwedig yn ystod hinsawdd ariannol bresennol."

*******************************************************************************************************

Environmental Health Officers on Anglesey are appealing for the safe return of vital equipment used to keep Parys Mountain's ponds from drying up.

The Henwaith Settlement Ponds, near Penysarn, were designated as contaminated land last year after raised levels of arsenic and lead were found within the ochre.

With grant assistance from the Welsh Assembly Government, the County Council had installed a special pump on site to ensure that the settlement ponds at the East end of the mountain's copper mines did not dry up over the summer months and cause dust problems for local residents.

The pump was stolen recently, putting the project in jeopardy and increasing the possible exposure to harmful chemicals.

Principal Environmental Health Officer, Huw Thomas, stressed, "There are no immediate risks to health to those living near the Henwaith Ponds. However, our studies have indicated that there may be some risk from breathing in dust from the ponds over a long period of time."

"Exposure to the chemicals is most likely to occur through direct contact with the ochre in the settlement ponds, but when the water dries up, the ochre dust that's left can get whipped up by the wind."

A team from the Council, Environment Agency, Countryside Council for Wales, Gwynedd Archaeological Trust, Amlwch Industrial Heritage Trust, Anglesey Mining and local residents discussed ways of managing the problem. It was decided to install a special pump that would help keep the ponds continually wet and thereby preventing the ochre dust from blowing away.

Huw Thomas added, "This pump is such a specialised piece of equipment that it really isn't much use to anyone else as it will not run off normal mains electricity. It was working well and keeping water circulating in the settlement ponds so that they couldn't dry up. I would urge those who took the pump to return it as soon as possible. The theft leaves the project in jeopardy and increases the potential for people to come into contact with contaminants in the affected ponds. We have limited financial resource available to us, and the theft places an additional unnecessary burden upon the Local Authority, particularly in this financial climate."