Pryderon Am Ddyn o Fangor
Mae'r Heddlu yn poeni am ddiogelwch dyn sydd heb gael ei weld ers Dydd Nadolig.
Cafodd Richard Thomas, sy'n 47, ac o Faesgeirchen ei weld diwethaf ar Ffordd Caergybi am oddeutu 11yb
Mae'n 5’10” ac yn gwisgo sbectols tywyll.
Roedd yn gwisgo dillad 'camouflage' gwyrdd, het ac esgidiau Doc Marten.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am Richard ffonio'r heddlu ym Mangor ar 101.