Prynu Rhan o Arfordir Pen Llyn

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofyn am gymorth pobl leol i godi £3m fel eu bod nhw'n medru prynu rhan o arfordir Pen Llyn.

Bwriad yr Ymddiriedolaeth yw diogelu'r 16 erw rhag datblygiadau twristaidd. 

Mae'n nhw'n honni bod yn rhaid codi'r arian erbyn Medi 30ain ac mae'r bwrdd twristiaid VisitWales wedi addo cyfrannu'r un faint o arian ag y mae'r Ymddiriedolaeth yn ei gasglu.  Ar wefan yr ymgyrch mae yna gloc yn cyfri'r eiliadau tan bo'n rhaid cyrraedd y targed a chynnig prynu'r tir. 

Henfaes a Phorth Simdde

Mae'r darn o'r arfordir dan sylw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhedeg o Henfaes i Borth Simdde.  Os fyddan nhw'n llwyddo codi'r arian maen nhw'n bwriadu codi llwybr newydd a chanolfan ymweld, gan greu swyddi.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran VisitWales:

"Mae hwn yn gyfran arbennig iawn o arfordir Pen Llyn.  Drwy gyfrannu at gronfa'r Neptune Coastline Appeal ry'm ni'n gobeithio sicrhau y bydd pobl leol ac ymwelwyr yn medru mwynhau'r ardal am flynyddoedd i ddod".