Rhoi genedigaeth i gathod prin yng Nghaer
Mae'r cheetahs cyntaf i gael eu geni yn Sw Gaer wedi bod tu allan am y tro gyntaf erioed!
Daw hyn wedi i'r anifeiliaid prin cael eu geni bron i chwe wythnos yn ôl.
Mae'r sw wedi dweud fod y cathod bach a'u mam KT mewn cyflwr da.
Mae Tim Rowlands yn gyfrifol am famaliaid y Sw:
"Dyma'r tro gyntaf i hyn ddigwydd yn Sw Caer ac rydym yn falch i ddweud fod y pedwar cheetah a'u mam KT yn iach.
"Mae'r math yma o cheetah mewn perygl yng Ngogledd Orllewin Affrica. Daw hyn oherwydd anifeiliaid mwy a ffermwyr yno"
Dyma fideo o'r Cheetahs o Sw Gaer.